Risultati di ricerca
Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Gweithredu’r Cwricwlwm. Bydd y Rhwydwaith Cenedlaethol yn cynnig cyfle i bob ymarferydd sydd â diddordeb gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu ar y cyd i fynd i'r afael â heriau a chyfleoedd cyffredin. Rhagor o wybodaeth.
Mewn ysgol tu allan i Gymru. Nid yw athrawon tu allan i Gymru yn gymwys i gael cyfrifon Hwb. Fodd bynnag, ceir degau o filoedd o adnoddau ar Hwb sydd ar gael i bawb am ddim, nid oes angen manylion mewn cofnodi ar gyfer rhain.
Boed fel rhai sy’n creu neu fel rhan o gynulleidfa, trwy ymwneud â’r celfyddydau mynegiannol gall dysgwyr ddod i ddeall a gwerthfawrogi diwylliannau a chymdeithasau yng Nghymru a’r byd. Trwy hyn gall dysgwyr feithrin sgiliau i archwilio amrywiaeth ddiwylliannol mewn lleoedd a chyfnodau gwahanol.
Datblygwyd yr adran ‘Galluogi dysgu’ hon yng nghanllaw Cwricwlwm i Gymru er mwyn helpu uwch arweinwyr ac ymarferwyr mewn ysgolion a lleoliadau i gynllunio, dylunio a gweithredu cwricwlwm sy’n addysgegol briodol i bob dysgwr.
Cyflwynwyd y Cwricwlwm i Gymru mewn ysgolion a lleoliadau cynradd ym mis Medi 2022. Gwnaeth ysgolion uwchradd a ddewisodd gyflwyno'r cwricwlwm yn gynnar i Flwyddyn 7 hefyd ddechrau'r broses ym mis Medi 2022; mae’r cwricwlwm yn orfodol i Flwyddyn 7 a Blwyddyn 8 o fis Medi 2023.
Mae’r cynllun gweithredu hwn yn pontio Cwricwlwm i Gymru: Y daith i 2022 a Cenhadaeth ein cenedl, gan nodi sut y bydd y sector addysg ehangach yn helpu ysgolion a lleoliadau i gyflawni disgwyliadau yn unol ag ymrwymiadau Cenhadaeth ein cenedl.
Mae Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu (Maes) yn ymwneud ag agweddau hanfodol cyfathrebu rhwng pobl. Ei nod yw cefnogi dysgu ar draws yr holl gwricwlwm a galluogi dysgwyr i ennill gwybodaeth a sgiliau yn Gymraeg, Saesneg, ac ieithoedd rhyngwladol yn ogystal â llenyddiaeth.